Deilliodd y syniad o ddigwyddiad yr aethom iddo yng Nghaerlŷr - Gŵyl Gwneud a Thrwsio. Roedd llawer o weithgareddau yn digwydd yno, o uwchgylchu paledau i adeiladu iglŵ o gartennau llaeth. Roedd ystafell llawn o beiriannau gwnïo yn brysur gwneud bagiau a baneri bychain o hen ddillad. Roedd teclynnau cartref yn cael eu trwsio, ac roedd hen gyfrifiaduron yn cael eu hadfer gyda meddalwedd Linux Open-Source.
Roeddem yn credu mai Machynlleth oedd y lle iawn i gynnal Gŵyl debyg, felly cafodd Cymhorthfa Repair and Share ei sefydlu, archebasom le yn y Plas a bellach mae'n rhaid i ni fynd amdani Mae'r fenter hon yn cael ei gwneud ar y cyd ag ecodyfi |
Rydyn ni'n bwriadu cynnal: Caffi Atgyweirio, gosod / uwchraddio cyfrifiaduron, trwsio dillad, uwchgylchu dillad, gwneud bagiau, Ysbyty Tegannau, cynnal beiciau a'u cyfnewid, Cyfnewid Coedennau, trwsio neu finiogi offer garddio, cyfnewid llyfrau, ail-ddefnyddio paledau, arlwyo gyda bwyd dros ben ... a mwy
|
Y lleoliad yw'r Plas www.facebook.com/Y-Plas-Machynlleth-289536071073968/