Dewch â'ch hadau, eginblanhigion a'ch coed ifainc i gyfnewid. Yr amser delfrydol i basio mlaen eich eginblanhigion sydd dros ben, a nid yw'n rhy hwyr i hau hadau. Prosiect cymunedol sydd yn tyfu planhigion bwytadwy o amgylch Machynlleth ydy Edible Mach Maethlon. Prif amcanion Edible Mach Maethlon yw cysylltu pobl gyda bwyd lleol sydd yn gynaladwy ac sydd yn helpu i ddysgu sgiliau newydd. Gwirfoddolwyr ydy asgwrn cefn Edible Mach Maethlon, drwy ddylunio, adeiladu ac edrych ar ôl y safleoedd tyfu o amgylch y dref. Gyda 13 safle o amgylch Machynlleth, sydd am ddim i bawb i gynaeafu a mwynhau, mae garddio bwytadwy yn sicr wedi glanio yn y dref.
Bydd Phil Wheeler yn dangos sut i blannu planhigion mewn pethau annisgwyl